'Rwy'n morio tua chartre'm Nêr, Rhwng tonnau maith 'rwy'n byw, Yn ddyn heb neges tan y sêr, Ond 'mofyn am ei Dduw. Mae'r gwyntoedd yn fy nghuro'n ol, A mi nid wyf ond gwan; O cymmer Iesu fi yn dy gôl, Yn fuan dwg fi i'r làn. N'ad fi ar aswy nac ar dde, I redeg o dy flaen; Ond dilyn llwybrau Brenin Ne', Trwy ganol dwfr a thân. Yn nyfnder profedigaeth du, Dos dy hunan o fy mlaen; Ond i mi gael bod gydâ thi, Nid ofnaf ddw'r na thân. O gwna fy nghalon redeg trwy Oll atat ti dy hun; Na bo difyrwch genyf mwy Mewn daear, da, na dyn. O! cau fy llygaid, rhag im' wel'd Pleserau gwag y byd, Ac imi wyro byth oddiar Dy lwybrau gwerthfawr, drud. A phan bo'n curo f'enaid gwan Elynion rif y sêr, Derchafa'm hysbryd llesg i'r làn, I fynwes bur fy Nêr. Na byddo gwrth'nebiadau'r byd, Na chroesau o un rhyw, I'm hoeri, nac i sugno 'mryd Un dim oddiwrth fy Nuw. Boed dyoddefiadau pur y groes, Fel olew i'm hiachau; Griddfanau dyfnion angau loes, I'm rhoddi i lawenhau. Marwolaeth fy Ngwaredwr mawr Yn fywyd pur i mi; Fel gallwyf roddi oll i lawr Yn gôf am Galfari. Mi ro' fy 'mddiried ynddo ef, Mae'n noddfa gref i'r gwan; Ac er y curo sy arnai lawr Fe ddeil fy mhen i'r làn. Nes cyraedd hyfryd lanau'r nef, Bydd gadarn ar fy rhan; A dwg fi trwy'r ystorom gref, O dòn i dòn i'r lan. chartre'm Nêr :: chartref Nêr Yn ddyn heb neges tan ... Ond :: Fy neges bennaf dan ... Yw mi nid wyf :: finnau 'dwyf N'ad fi ... I redeg :: Na âd ... I'm redeg N'ad im ... Fyth redeg Trwy ganol :: Trwy ddyfnder gwna fy nghalon :: gwna i'm calon byddo gwrth'nebiadau'r :: b'o gwrthwynebiadau'r
William Williams 1717-91
Tonau [MC 8686]:
gwelir: |
I am sailing towards my Chief's home, Between huge waves I am living, As a man without a mission under the stars, Except to ask for his God. The winds are beating me back And I am only weak; O take me Jesus in thy bosom, Soon bring me to the shore. Do not let me to the left nor to the right Run before thee; But to follow the paths of the King of heaven, Through the centre of water and fire. In the depth of black trial, Come thyself before me; But for me to get to be with thee I shall fear neither water nor fire. O make my heart run through All towards thee thyself; That I may have no more pleasure In earth, goods, nor man. O close my eyes lest I see The empty pleasures of the world, And I veer forever from Thy valuable, precious paths. And whenever my weak soul is beaten by Enemies numerous as the stars, Raise my fainting spirit up, To the pure breast of my Chief. May there be no opposition of the world, Nor crosses of any kind, To chill me, nor to suck my attention The least bit away from my God. Let there be pure sufferings of the cross, Like oil to heal me; Deep groanings of the throes of death, To make me rejoice. The death of my great Deliverer As pure life to me; Thus I can roam all the earth Remembering Calvary. I will put my trust in him, He is a strong refuge for the weak; And though I am beaten down He will hold up my head. Until I reach the delightful shores of heaven, Be strong on my part; And lead me through the strong storm, From wave to wave to the shore. my Chief's home :: (the) Chief's home As a man without a mission under ... Except :: My paramount errand under ... Is :: Do not let me ... Run :: Do not let me ... Run Do not let me ... Ever run Through the centre :: Through the depth gwna fy nghalon :: gwna i'm calon :: tr. 2009,10 Richard B Gillion |
Toward heaven, my Father's home, I steer, Tossed on the billowy flood: A man that hath no purpose here Save seeking for his God. Opposing tempests beat me back, And I have strength no more; O take me, Jesus, in thine arms, And bear to yonder shore. Let me not swerve to right or left, Or of thy guidance tire; Kept in the course that heavenward leads, Through the midst of flood and fire.(original order: vv. 1,3,2.) |